Oni fuasai’n wych i gychwyn eich bywyd priodasol gyda seremoni sydd wirioneddol yn golygu rhywbeth i chi fel cwpl? I gael seremoni sy’n datgan yn glir eich rhesymau dros briodi person mor arbennig?
Mae nifer o bobl ddigrefydd yn chwilio am briodas sy’n fwy personol mewn natur ac yn cynnig fwy o hyblygrwydd na seremoni mewn swyddfa gofrestru. Yn syml, seremoni ddigrefydd yw priodas ddyneiddiol, ac un sy’n cynnig y cyfle i chi briodi ble, pryd a sut bynnag rydych chi’n dymuno priodi! Mae’r seremoni yn canolbwyntio ar y cariad rhwng dau berson, a’u hymrwymiad i’w gilydd. Does yna ddim sgript gosod - mae pob achlysur yn cael ei siapio gan y cwpl. Chi sydd biau’r dewis ynglŷn â thôn, geiriau a cherddoriaeth.

Mae priodasau dyneiddiol yn berffaith i gwpl sydd am gael:
· Seremoni ddigrefydd ond ystyrlon
· Rhyddid i briodi yn yr awyr agored neu mewn lleoliad heb drwydded i gynnal priodasau sifil
· Hyblygrwydd i gynnal seremoni bersonol a fydd yn unigryw iddyn nhw
· Cyfle i ddathlu’r briodas gyda theulu a ffrindiau heb yr angen i’w wneud yn gyfreithiol - er enghraifft, efallai mae'r cwpl eisoes wedi priodi dramor.
Yn yr Alban cydnabyddir priodasau dyneiddiol gan y gyfraith. Nid yw hwn yn wir eto yng Nghymru, felly yn aml mae’r cwpl yn mynd trwy’r camau cyfreithiol cyn neu ar ôl eu priodas ddyneiddiol.
Cewch ragor o wybodaeth am briodasau trwy wylio ffilm gan Humanists UK, neu gliciwch YMA. i weld ein proffeil ar wefan Humanists UK.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Mae'n bosib byddem yn codi costau teithio ar ben hynny yn dibynnu ar leoliad, ond fe wnawn ni'ch hysbysu o'r ffaith yma yn ystod y trafodaethau cychwynnol. Telir canran o'n ffi i Humanists UK fel cyfraniad i hyfforddiant a sicrhau ansawdd gweinyddion, ac er mwyn datblygu rhwydwaith Gweinyddion Humanists UK. Mae'r cyfraniad hefyd yn sicrhau bod gan bob gweinydd Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ac Yswiriant Indemniad Proffesiynol.