Defod Enwi
Dyma’r atebion i rai cwestiynau cyffredin. Mae croeso i chi gysylltu os oes gennych chi gwestiwn rydyn ni heb ei ateb yma.
Lle fedrwn ni gynnal seremoni enwi?
Gan fod seremoni enwi yn ddigwyddiad preifat, heb statws cyfreithiol, chi bia’r dewis ynglŷn â’r lleoliad. Mae nifer o bobl yn dewis cynnal seremoni enwi mewn tŷ neu ardd, mewn neuadd bentref neu hyd yn oed yn y parc!
Ydi o’n bosib i ni ddathlu parti pen-blwydd a seremoni enwi gyda’i gilydd?
Wrth gwrs - mae nifer o deuluoedd yn penderfynu cyfuno dathliadau’r enwi gyda pharti pen-blwydd. Mae’n amserol iawn gan fod teulu a ffrindiau yn aml yn dod at ei gilydd i ddathlu’r pen-blwydd gyntaf.
Ydi o’n bosib i ni benodi rhieni bedydd fel rhan o’r seremoni enwi?
Mae nifer o deuluoedd yn dewis penodi oedolion i chwarae rôl bwysig ym mywydau’r plant; yn wir, dyna un o’r prif resymau dros gynnal seremoni enwi. Enw poblogaidd ar gyfer y rôl yw ‘guideparent’ neu ‘rhiant bugeiliol’ neu 'rhiant arweiniol', ond mae rhai teuluoedd yn dewis enw mwy hwyliog fel ‘spriant’!
Beth sy’n digwydd yn ystod seremoni enwi?
Nid oes yna drefn benodol ar gyfer seremoni - mae pob un yn unigryw. Er hynny, mae’r seremonïau fel arfer yn para rhwng 20 a 30 munud, er mwyn lles y rhai bach sy’n hoffi crwydro neu cysgu!
Gall seremoni gynnwys darlleniadau, addewidion gan rieni, penodiad rhieni bugeiliol, a seremoni ffurfiol i groesawu neu enwi’r plentyn. Bydd yna chwerthin a dagrau yn ogystal!
Hoffwn i gael seremoni enwi ar gyfer fy mhlentyn, ond mae’n gas gen i siarad yn gyhoeddus. Oes rhaid i mi siarad?
Nag oes. Er bod nifer fawr o seremonïau’n cynnwys y rhieni yn gwneud addewidion i’r plentyn, fe allwch chi wneud hwn drwy ateb cwestiynau’r gweinydd gyda ‘rwy'n addo’ (neu eiriau tebyg), neu all un rhiant ateb ar ran y llall. Pe byddai’n well gennych chi beidio â siarad o gwbl, gall y gweinydd darllen yr addewidion ar eich rhan. Y peth pwysicaf yw bod eich teimladau’n cael eu cyfleu mewn ffordd sy’n gwneud i chi deimlo’n gyfforddus ac yn hapus.
Mae fy Nain yn berson grefyddol iawn, a dydw i ddim am ei phechu hi. Bydd seremoni enwi yn iawn?
Yn hollol iawn. Rydym yn deall y bydd yna bobl o wahanol grefyddon a chredoau yn mynychu’r seremoni, ac rydym yn awyddus i sicrhau bod pawb yn teimlo’n gyfforddus ac yn rhan o’r digwyddiad. Mae seremonïau enwi’n canolbwyntio ar y plentyn fel unigolyn; ac ar gyfrifoldebau a’r llawenydd sy’n deillio o fod yn rhiant. Bydd y seremoni yn achlysur emosiynol a llawen i’r holl fynychwyr; boed ganddyn nhw grefydd ai peidio.
Hoffem egluro pam ddewison ni enw ein plentyn. Allem ni wneud hwn?
Gallwch, ac yn wir, dyna un o uchafbwyntiau’r achlysur. Gan amlaf mae yna stori ddiddorol tu ôl i enw’r plentyn, ac mae’n dda i rannu hwn gyda theulu a ffrindiau.
Ydi seremonï enwi yn achlysur swnllyd?
Fe allai bod, ond yn ein barn ni, dyna ydi hanner yr hwyl! Rydym wedi hen arfer gyda natur annarogan plant bach, ac wedi arfer gydag ychydig o sŵn a bwrlwm. Medrwn awgrymu pethau bydd o gymorth i gadw sylw’r plant, ond fel arfer mae natur anffurfiol seremonïau enwi yn golygu nad yw’n broblem fawr os ydi plant yn gwneud ychydig o sŵn… neu hyd yn oed os oes angen picied allan i newid clwt!