Mae profedigaeth a cholled wastad yn brofiad anodd.
Rydym yn cynnig angladdau a seremoniau coffa dyneiddiol bydd yn cynnig ffarwel gweddus a phersonol i bobl a dewisodd byw bywyd heb grefydd. Ddown â phobl ynghyd i fynegi tristwch, ond hefyd i ddathlu bywyd yr unigolyn. Bydd y seremoni diffuant yn talu teyrnged i’r ddiweddar, gan ddathlu’r ôl gadawodd ef/hi ar deulu a ffrindiau.
Bydd trefnwr angladdau yn delio gyda threfniadau ymarferol angladd, ond chi bia’r dewis ynglŷn â’r math o seremoni hoffech chi. Gellid cynnal angladdau dyneiddiol mewn amryw o leoliadau, er cynhelir y rhan fwyaf mewn amlosgfeydd lleol, megis Parc Coffa Sir Ddinbych yn Llanelwy, neu Amlosgfa Bron-y-Nant ym Mae Colwyn. Gellid eu cynnal nhw mewn mynwentydd neu fan claddu coetir megis Cysegr y Goedwig ym Mhwllheli.
Mae nifer o bobl yn dewis seremoni ddyneiddiol gan eu bod nhw’n dymuno seremoni ddigrefydd. Nid oes rhaid i chi fod yn ddyneiddiwr.

Cliciwch i weld rhagor o fanylion ar dudalen Humanists UK Dawn.
Cewch ragor o wybodaeth am angladdau dyneiddiol trwy wylio ffilm gan Humanists UK.