Un nod sydd gennym ni yn Seremonïau Dyneiddiol Gogledd Cymru: i greu seremonïau dyneiddiol, di-grefydd yr un mor gofiadwy, unigryw a phersonol a’n cleientiaid.
Rydym wedi'n lleoli ym Mhrestatyn, ac yn cynnig gwasanaeth drwy'r Gymraeg, Saesneg neu'n ddwyieithog ar draws gogledd Cymru - un o'r unig gwmniau i wneud felly, ac yn falch iawn o'r ffaith!
Mae seremonïau dyneiddiol yn ddigrefydd, ac wedi eu phersonoli a’u teilwra i gwrdd â'ch gofynion ac i dathlu cerrig milltir bywyd, megis:
· Dathlu baban neu blentyn newydd, gyda seremoni enwi
· Uno dau berson mewn seremoni briodas llawn cariad
· Dathlu bywyd gydag angladd urddasol
Byddem yn cwrdd â chi er mwyn cynllunio'r seremoni, ac yn ysgrifennu sgript yn arbennig ar eich cyfer. Fe wnawn ni arwain a chynnal y seremoni ar y diwrnod; ac wrth gwrs, fe gewch gopi o’r sgript derfynol i’w chadw fel cofrodd.
Am ragor o fanylion ar yr hyn rydym yn ei gynnig, ewch i’n tudalennau Enwi, Priodasau ac Angladdau.
Ni oeder i gysylltu â ni i drafod sut gallwn wireddu'ch cynlluniau a chreu'r seremoni berffaith.
Cysylltu
Edrychwn ymlaen i glywed gennych chi!
Trwy e-bost:
[email protected]
[email protected]
Neu ffoniwch 01745 853571
Neu llenwch y ffurflen isod:
Trwy e-bost:
[email protected]
[email protected]
Neu ffoniwch 01745 853571
Neu llenwch y ffurflen isod: