“Rydyn ni’n bendant ein bod ni am ddathlu genedigaeth ein baban, ond dydyn ni ddim yn grefyddol felly ni fydd bedydd yn iawn i ni. Dyma pam dewison ni seremoni enwi ddyneiddiol."
Mae seremoni enwi ddyneiddiol yn achlysur llawen, personol ac anffurfiol. Mae llawer o rieni yn dewis seremoni enwi am eu bod nhw am ddathlu dyfodiad plentyn, ond am wneud hynny’n ddigrefydd.

Gallwch gynnal seremoni enwi ble bynnag y dymunwch chi: yn y parc, yr ardd, neuadd bentref, ar y traeth…
Y plentyn â’i deulu yw canolbwynt y seremoni. Chi sy’n penderfynu pryd i gynnal seremoni enwi. Does dim brys! Mae nifer o rieni yn cyfuno seremoni enwi â dathliad pen-blwydd, neu’n dewis enwi brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd.
Yn ystod seremoni enwi gall rhieni a theulu’r plentyn darllen gerdd arbennig, gwneud addewidion i’r plentyn, penodi arweinrhieni (‘guideparents’) neu berfformio gweithred symbolaidd megis plannu coeden, arwyddo dystysgrif neu ysgrifennu mewn llyfr dymuniadau da.
Nid oes yna sgript ar gyfer seremoni enwi ddyneiddiol – mae’n achlysur rhy bersonol o lawer! Ceir pob seremoni ei theilwra i ateb gofynion y teulu.

Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion. Mae'n bosib byddem yn codi costau teithio yn dibynnu ar leoliad, ond fe wnawn ni'ch hysbysu o'r ffaith yma yn ystod y trafodaethau cychwynnol.